33. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am frenin Asyria, Ni ddaw efe i'r ddinas hon, ac nid ergydia efe saeth yno; hefyd ni ddaw o'i blaen รข tharian, ac ni fwrw glawdd i'w herbyn.
34. Ar hyd yr un ffordd ag y daeth y dychwel, ac ni ddaw i mewn i'r ddinas hon, medd yr Arglwydd.
35. Canys mi a ddiffynnaf y ddinas hon, i'w chadw hi er fy mwyn fy hun, ac er mwyn Dafydd fy ngwas.
36. Yna yr aeth angel yr Arglwydd, ac a drawodd yng ngwersyll yr Asyriaid gant a phedwar ugain a phump o filoedd: a phan gyfodasant yn fore drannoeth, wele hwynt oll yn gelaneddau meirwon.
37. Felly Senacherib brenin Asyria a ymadawodd, ac a aeth, ac a ddychwelodd, ac a drigodd yn Ninefe.