3. Ac aeth ato ef Eliacim mab Hilceia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur.
4. A dywedodd Rabsace wrthynt, Dywedwch yn awr wrth Heseceia, Fel hyn y dywed y brenin mawr, brenin Asyria, Pa hyder yw hwn yr ymddiriedi ynddo?
5. Dywedais, meddi, (ond nid ydynt ond geiriau ofer,) Cyngor a nerth sydd gennyf i ryfel: ar bwy, atolwg, yr hyderi, pan wyt yn gwrthryfela i'm herbyn?
6. Wele, hyderaist ar y ffon gorsen ddrylliedig honno, ar yr Aifft; yr hon pwy bynnag a bwyso arni, hi a รข i gledr ei law ef, ac a dylla trwyddi: felly y mae Pharo brenin yr Aifft i bawb a hyderant arno.