Eseia 33:4-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. A'ch ysbail a gynullir fel cynulliad lindys; fel gwibiad ceiliogod rhedyn y rhed efe arnynt.

5. Dyrchafwyd yr Arglwydd; canys preswylio y mae yn yr uchelder: efe a lanwodd Seion o farn a chyfiawnder.

6. A sicrwydd dy amserau, a nerth iachawdwriaeth, fydd doethineb a gwybodaeth: ofn yr Arglwydd yw ei drysor ef.

Eseia 33