Eseia 32:17-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. A gwaith cyfiawnder fydd heddwch; ie, gweithred cyfiawnder fydd llonyddwch a diogelwch, hyd byth.

18. A'm pobl a drig mewn preswylfa heddychlon, ac mewn anheddau diogel, ac mewn gorffwysfaoedd llonydd.

19. Pan ddisgynno cenllysg ar y coed, ac y gostyngir y ddinas mewn lle isel.

20. Gwyn eich byd y rhai a heuwch gerllaw pob dyfroedd, y rhai a yrrwch draed yr ych a'r asyn yno.

Eseia 32