Eseia 27:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ydydd hwnnw yr ymwêl yr Arglwydd â'i gleddyf caled, mawr, a chadarn, â lefiathan y sarff hirbraff, ie, â lefiathan y sarff dorchog: ac efe a ladd y ddraig sydd yn y môr.

2. Yn y dydd hwnnw cenwch iddi, Gwinllan y gwin coch.

3. Myfi yr Arglwydd a'i ceidw; ar bob moment y dyfrhaf hi: cadwaf hi nos a dydd, rhag i neb ei drygu.

Eseia 27