Eseia 24:4-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Galarodd a diflannodd y ddaear, llesgaodd a dadwinodd y byd, dihoenodd pobl feilchion y ddaear.

5. Y ddaear hefyd a halogwyd dan ei phreswylwyr: canys troseddasant y cyfreithiau, newidiasant y deddfau, diddymasant y cyfamod tragwyddol.

6. Am hynny melltith a ysodd y tir, a'r rhai oedd yn trigo ynddo a anrheithiwyd; am hynny preswylwyr y tir a losgwyd, ac ychydig ddynion a adawyd.

7. Galarodd y gwin, llesgaodd y winwydden, y rhai llawen galon oll a riddfanasant.

8. Darfu llawenydd y tympanau, peidiodd trwst y gorfoleddwyr, darfu hyfrydwch y delyn.

9. Nid yfant win dan ganu; chwerw fydd diod gref i'r rhai a'i hyfant.

10. Drylliwyd y ddinas wagedd; caewyd pob tŷ, fel na ddeler i mewn.

11. Y mae llefain am win yn yr heolydd; tywyllodd pob llawenydd, hyfrydwch y tir a fudodd ymaith.

12. Yn y ddinas y gadawyd anghyfanheddrwydd, ag anrhaith hefyd y dryllir y porth.

13. Oblegid bydd o fewn y tir, yng nghanol y bobloedd, megis ysgydwad olewydden, ac fel grawn lloffa pan ddarffo cynhaeaf y gwin.

14. Hwy a ddyrchafant eu llef, ac a ganant; oherwydd godidowgrwydd yr Arglwydd, bloeddiant o'r môr.

15. Am hynny gogoneddwch yr Arglwydd yn y dyffrynnoedd, enw Arglwydd Dduw Israel yn ynysoedd y môr.

16. O eithafoedd y ddaear y clywsom ganiadau, sef gogoniant i'r cyfiawn. A dywedais, O fy nghulni, O fy nghulni, gwae fi! y rhai anffyddlon a wnaethant yn anffyddlon, ie, gwnaeth yr anffyddlon o'r fath anffyddlonaf.

17. Dychryn, a ffos, a magl fydd arnat ti, breswylydd y ddaear.

18. A'r hwn a ffy rhag trwst y dychryn, a syrth yn y ffos; a'r hwn a gyfodo o ganol y ffos, a ddelir yn y fagl: oherwydd ffenestri o'r uchelder a agorwyd, a seiliau y ddaear sydd yn crynu.

Eseia 24