Eseia 23:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Baich Tyrus. Llongau Tarsis, udwch: canys anrheithiwyd hi, fel nad oes na thŷ, na chyntedd: o dir Chittim y datguddiwyd iddynt.

2. Distewch, drigolion yr ynys, yr hon y mae marchnadyddion Sidon, y rhai sydd yn tramwy y môr, yn dy lenwi.

3. Ac wrth ddyfroedd lawer, had Sihor, cynhaeaf yr afon yw ei chnwd hi: felly marchnadfa cenhedloedd yw hi.

4. Cywilyddia, Sidon; canys y môr, ie, cryfder y môr, a lefarodd, gan ddywedyd, Nid ymddygais, ac nid esgorais, ni fegais wŷr ieuainc chwaith, ac ni feithrinais forynion.

5. Megis wrth glywed sôn am yr Eifftiaid, yr ymofidiant wrth glywed sôn am Tyrus.

6. Ewch trosodd i Tarsis; udwch, breswylyr yr ynys.

Eseia 23