Eseia 2:5-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Tŷ Jacob, deuwch, a rhodiwn yng ngoleuni yr Arglwydd.

6. Am hynny y gwrthodaist dy bobl, tŷ Jacob, am eu bod wedi eu llenwi allan o'r dwyrain, a'u bod yn swynwyr megis y Philistiaid, ac mewn plant dieithriaid yr ymfodlonant.

7. A'u tir sydd gyflawn o arian ac aur, ac nid oes diben ar eu trysorau; a'u tir sydd lawn o feirch, ac nid oes diben ar eu cerbydau.

8. Eu tir hefyd sydd lawn o eilunod; i waith eu dwylo eu hun yr ymgrymant, i'r hyn a wnaeth eu bysedd eu hun:

9. A'r gwrêng sydd yn ymgrymu, a'r bonheddig yn ymostwng: am hynny na faddau iddynt.

10. Dos i'r graig, ac ymgûdd yn y llwch, rhag ofn yr Arglwydd, a rhag gogoniant ei fawredd ef.

11. Uchel drem dyn a iselir, ac uchder dynion a ostyngir; a'r Arglwydd yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw.

12. Canys dydd Arglwydd y lluoedd fydd ar bob balch ac uchel, ac ar bob dyrchafedig; ac efe a ostyngir:

13. Ac ar holl uchel a dyrchafedig gedrwydd Libanus, ac ar holl dderw Basan,

14. Ac ar yr holl fynyddoedd uchel, ac ar yr holl fryniau dyrchafedig,

Eseia 2