Eseia 18:5-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Canys o flaen cynhaeaf, pan fyddo y blodeuyn yn berffaith, a'r grawnwin surion yn aeddfedu yn y blodeuyn: efe a dyr y brig รข chrymanau, ac a dynn ymaith ac a dyr y canghennau.

6. Gadewir hwynt ynghyd i adar y mynyddoedd, ac i anifeiliaid y ddaear: ac arnynt y bwrw yr adar yr haf, a holl anifeiliaid y ddaear a aeafa arnynt.

7. Yr amser hwnnw y dygir rhodd i Arglwydd y lluoedd gan bobl wasgaredig ac ysbeiliedig, a chan bobl ofnadwy er pan ydynt ac eto, cenedl wedi ei mesur a'i sathru, yr hon yr ysbeiliodd yr afonydd ei thir, i le enw Arglwydd y lluoedd, sef i fynydd Seion.

Eseia 18