Eseia 16:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Anfonwch oen i lywodraethwr y tir, o Sela i'r anialwch, i fynydd merch Seion.

2. Bydd fel aderyn yn gwibio wedi ei fwrw allan o'r nyth; felly y bydd merched Moab wrth rydau Arnon.

3. Ymgynghora, gwna farn, gwna dy gysgod fel nos yng nghanol hanner dydd; cuddia y rhai gwasgaredig, na ddatguddia y crwydrad.

4. Triged fy ngwasgaredigion gyda thi; Moab, bydd di loches iddynt rhag y dinistrydd; canys diweddwyd y gorthrymydd, yr anrheithiwr a beidiodd, y mathrwyr a ddarfuant o'r tir.

5. A gorseddfainc a ddarperir mewn trugaredd; ac arni yr eistedd efe mewn gwirionedd, o fewn pabell Dafydd, yn barnu ac yn ceisio barn, ac yn prysuro cyfiawnder.

Eseia 16