Eseia 14:7-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Gorffwysodd a llonyddodd yr holl ddaear; canasant o lawenydd.

8. Y ffynidwydd hefyd a chedrwydd Libanus a lawenhasant yn dy erbyn, gan ddywedyd, Er pan orweddaist, nid esgynnodd cymynydd i'n herbyn.

9. Uffern oddi tanodd a gynhyrfodd o'th achos, i gyfarfod รข thi wrth dy ddyfodiad: hi a gyfododd y meirw i ti, sef holl dywysogion y ddaear; cyfododd holl frenhinoedd y cenhedloedd o'u gorseddfaoedd.

10. Y rhai hynny oll a lefarant, ac a ddywedant wrthyt, A wanhawyd tithau fel ninnau? a aethost ti yn gyffelyb i ni?

Eseia 14