21. Ac mi a'i rhoddaf yn llaw dieithriaid yn ysbail, ac yn anrhaith i rai drygionus y tir; a hwy a'i halogant ef.
22. Troaf hefyd fy wyneb oddi wrthynt, a halogant fy nirgelfa: ie, anrheithwyr a ddaw iddi, ac a'i halogant.
23. Gwna gadwyn; canys llanwyd y tir o farn waedlyd, a'r ddinas sydd lawn o drais.
24. Am hynny y dygaf rai gwaethaf y cenhedloedd, fel y meddiannont eu tai hwynt: gwnaf hefyd i falchder y cedyrn beidio; a'u cysegroedd a halogir.
25. Y mae dinistr yn dyfod; a hwy a geisiant heddwch, ac nis cânt.