Eseciel 47:12-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Ac wrth yr afon y cyfyd, ar ei min o'r ddeutu, bob pren ymborth; ei ddalen ni syrth, a'i ffrwyth ni dderfydd: yn ei fisoedd y dwg ffrwyth newydd; oherwydd ei ddyfroedd, hwy a ddaethant allan o'r cysegr: am hynny y bydd ei ffrwyth yn ymborth, a'i ddalen yn feddyginiaeth.

13. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Dyma y terfyn wrth yr hwn y rhennwch y tir yn etifeddiaeth i ddeuddeg llwyth Israel: Joseff a gaiff ddwy o rannau.

14. Hefyd chwi a'i hetifeddwch ef, bob un cystal â'i gilydd; am yr hwn y tyngais ar ei roddi i'ch tadau: a'r tir hwn a syrth i chwi yn etifeddiaeth.

15. A dyma derfyn y tir o du y gogledd, o'r môr mawr tua Hethlon, ffordd yr eir i Sedad:

16. Hannath, Berotha, Sibraim, yr hwn sydd rhwng terfyn Damascus a therfyn Hamath: Hasar‐hattichon, yr hwn sydd ar derfyn Hauran.

17. A'r terfyn o'r môr fydd Hasarenan, terfyn Damascus, a'r gogledd tua'r gogledd, a therfyn Hamath. A dyma du y gogledd.

Eseciel 47