9. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ni ddaw i'm cysegr un mab dieithr dienwaededig o galon, a dienwaededig o gnawd, o'r holl feibion dieithr y rhai sydd ymysg meibion Israel.
10. A'r Lefiaid y rhai a giliasant ymhell oddi wrthyf, pan gyfeiliornodd Israel, y rhai a grwydrasant oddi wrthyf ar ôl eu delwau, hwy a ddygant eu hanwiredd.
11. Eto hwy a fyddant yn fy nghysegr, yn weinidogion mewn swydd ym mhyrth y tŷ, ac yn gweini i'r tŷ: hwy a laddant yr offrwm poeth, ac aberth y bobl, a hwy a safant o'u blaen hwy i'w gwasanaethu hwynt.