Eseciel 42:18-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Y tu deau a fesurodd efe yn bum can corsen, wrth y gorsen fesur.

19. Efe a aeth o amgylch i du y gorllewin, ac a fesurodd bum can corsen, wrth y gorsen fesur.

20. Efe a fesurodd ei bedwar ystlys ef: mur oedd iddo ef o amgylch ogylch, yn bum can corsen o hyd, ac yn bum can corsen o led, i wahanu rhwng y cysegr a'r digysegr.

Eseciel 42