Eseciel 39:20-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Felly y'ch diwellir ar fy mwrdd i â meirch a cherbydau, â gwŷr cedyrn a phob rhyfelwr, medd yr Arglwydd Dduw.

21. A gosodaf fy ngogoniant ymysg y cenhedloedd, a'r holl genhedloedd a gânt weled fy marnedigaeth yr hon a wneuthum, a'm llaw yr hon a osodais arnynt.

22. A thŷ Israel a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt o'r dydd hwnnw allan.

Eseciel 39