Eseciel 39:10-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Ac ni ddygant goed o'r maes, ac ni thorrant ddim o'r coedydd; canys â'r arfau y cyneuant dân: a hwy a ysbeiliant eu hysbeilwyr, ac a ysglyfaethant oddi ar eu hysglyfaethwyr, medd yr Arglwydd Dduw.

11. Bydd hefyd yn y dydd hwnnw, i mi roddi i Gog le bedd yno yn Israel, dyffryn y fforddolion o du dwyrain y môr: ac efe a gae ffroenau y fforddolion: ac yno y claddant Gog a'i holl dyrfa, a galwant ef Dyffryn Hamon‐gog.

12. A thŷ Israel fydd yn eu claddu hwynt saith mis, er mwyn glanhau y tir.

13. Ie, holl bobl y tir a'u claddant; a hyn fydd enwog iddynt y dydd y'm gogonedder, medd yr Arglwydd Dduw.

14. A hwy a neilltuant wŷr gwastadol, y rhai a gyniweiriant trwy y wlad i gladdu gyda'r fforddolion y rhai a adawyd ar wyneb y ddaear, i'w glanhau hi: ymhen saith mis y chwiliant.

15. A'r tramwywyr a gyniweiriant trwy y tir, pan welo un asgwrn dyn, efe a gyfyd nod wrtho, hyd oni chladdo y claddwyr ef yn nyffryn Hamon‐gog.

16. Ac enw y ddinas hefyd fydd Hamona. Felly y glanhânt y wlad.

17. Tithau fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Dywed wrth bob rhyw aderyn, ac wrth holl fwystfilod y maes, Ymgesglwch, a deuwch; ymgynullwch oddi amgylch at fy aberth yr ydwyf fi yn ei aberthu i chwi, aberth mawr ar fynyddoedd Israel, fel y bwytaoch gig, ac yr yfoch waed.

Eseciel 39