Eseciel 38:21-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. A mi a alwaf am gleddyf yn ei erbyn trwy fy holl fynyddoedd, medd yr Arglwydd Dduw: cleddyf pob un fydd yn erbyn ei frawd.

22. Mi a ddadleuaf hefyd yn ei erbyn ef â haint ac â gwaed: glawiaf hefyd gurlaw, a cherrig cenllysg, tân a brwmstan, arno ef, ac ar ei holl fyddinoedd, ac ar y bobloedd lawer sydd gydag ef.

23. Fel hyn yr ymfawrygaf, ac yr ymsancteiddiaf; a pharaf fy adnabod yng ngolwg cenhedloedd lawer, fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.

Eseciel 38