5. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Diau yn angerdd fy eiddigedd y lleferais yn erbyn y rhan arall o'r cenhedloedd, ac yn erbyn holl Edom, y rhai a roddasant fy nhir i yn etifeddiaeth iddynt eu hun, â llawenydd eu holl galon, trwy feddwl dirmygus, i'w yrru allan yn ysbail.
6. Am hynny proffwyda am dir Israel, a dywed wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau, wrth yr afonydd ac wrth y dyffrynnoedd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele, yn fy eiddigedd ac yn fy llid y lleferais, oherwydd dwyn ohonoch waradwydd y cenhedloedd.
7. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Myfi a dyngais, Diau y dwg y cenhedloedd sydd o'ch amgylch chwi eu gwaradwydd.
8. A chwithau, mynyddoedd Israel, a fwriwch allan eich ceinciau, ac a ddygwch eich ffrwyth i'm pobl Israel; canys agos ydynt ar ddyfod.
9. Canys wele fi atoch, ie, troaf atoch, fel y'ch coledder ac y'ch heuer.
10. Amlhaf ddynion ynoch chwi hefyd, holl dŷ Israel i gyd, fel y cyfanhedder y dinasoedd, ac yr adeilader y diffeithwch.
11. Ie, amlhaf ynoch ddyn ac anifail; a hwy a chwanegant ac a ffrwythant; a gwnaf i chwi breswylio fel yr oeddech gynt; ie, gwnaf i chwi well nag yn eich dechreuad, tel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd.
12. Ie, gwnaf i ddynion rodio arnoch, sef fy mhobl Israel; a hwy a'th etifeddant di, a byddi yn etifeddiaeth iddynt, ac ni ychwanegi eu gwneuthur hwy yn amddifaid mwy.