Eseciel 35:3-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi i'th erbyn di, mynydd Seir; estynnaf hefyd fy llaw i'th erbyn, a gwnaf di yn anghyfannedd, ac yn ddiffeithwch.

4. Gosodaf dy ddinasoedd yn ddiffeithwch, a thithau a fyddi yn anghyfannedd; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd.

5. Am fod gennyt alanastra tragwyddol, a thywallt ohonot waed meibion Israel รข min y cleddyf, yn amser eu gofid, yn amser diwedd eu hanwiredd hwynt:

Eseciel 35