Eseciel 32:14-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Yna y gwnaf yn ddyfnion eu dyfroedd hwynt, a gwnaf i'w hafonydd gerdded fel olew, medd yr Arglwydd Dduw.

15. Pan roddwyf dir yr Aifft yn anrhaith, ac anrheithio y wlad o'i llawnder, pan drawyf y rhai oll a breswyliant ynddi, yna y cânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd.

16. Dyma y galar a alarant amdani hi: merched y cenhedloedd a alarant amdani hi; galarant amdani hi, sef am yr Aifft, ac am ei lliaws oll, medd yr Arglwydd Dduw.

17. Ac yn y ddeuddegfed flwyddyn, ar y pymthegfed dydd o'r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

18. Cwyna, fab dyn, am liaws yr Aifft, a disgyn hi, hi a merched y cenhedloedd enwog, i'r tir isaf, gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll.

19. Tecach na phwy oeddit? disgyn a gorwedd gyda'r rhai dienwaededig.

Eseciel 32