Eseciel 28:25-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Pan gasglwyf dŷ Israel o fysg y bobloedd y rhai y gwasgarwyd hwy yn eu plith, ac yr ymsancteiddiwyf ynddynt yng ngolwg y cenhedloedd; yna y trigant yn eu gwlad a roddais i'm gwas Jacob.

26. Ie, trigant ynddi yn ddiogel, ac adeiladant dai, a phlannant winllannoedd; a phreswyliant mewn diogelwch, pan wnelwyf farnedigaethau â'r rhai oll a'u dirmygant hwy o'u hamgylch; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw.

Eseciel 28