14. Ceriwb eneiniog ydwyt yn gorchuddio; ac felly y'th roddaswn; oeddit ar sanctaidd fynydd Duw: ymrodiaist yng nghanol y cerrig tanllyd.
15. Perffaith oeddit ti yn dy ffyrdd er y dydd y'th grewyd, hyd oni chaed ynot anwiredd.
16. Yn amlder dy farchnadaeth y llanwasant dy ganol รข thrais, a thi a bechaist: am hynny y'th halogaf allan o fynydd Duw, ac y'th ddifethaf di, geriwb yn gorchuddio, o ganol y cerrig tanllyd.