Eseciel 22:3-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Dywed dithau, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Tywallt gwaed y mae y ddinas yn ei chanol, i ddyfod o'i hamser, ac eilunod a wnaeth hi yn ei herbyn ei hun i ymhalogi.

4. Euog wyt yn dy waed, yr hwn a dywelltaist; a halogedig yn dy eilunod, y rhai a wnaethost; a thi a neseaist dy ddyddiau, a daethost hyd at dy flynyddoedd: am hynny y'th wneuthum yn warth i'r cenhedloedd, ac yn watwargerdd i'r holl wledydd.

5. Y rhai agos a'r rhai pell oddi wrthyt a'th watwarant, yr halogedig o enw, ac aml dy drallod.

6. Wele, tywysogion Israel oeddynt ynot, bob un yn ei allu i dywallt gwaed.

7. Dirmygasant ynot dad a mam; gwnaethant yn dwyllodrus รข'r dieithr o'th fewn: gorthrymasant ynot yr amddifad a'r weddw.

8. Dirmygaist fy mhethau sanctaidd, a halogaist fy Sabothau.

Eseciel 22