Eseciel 21:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Adaeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

2. Gosod dy wyneb, fab dyn, tua Jerwsalem, a difera dy eiriau tua'r cysegroedd, a phroffwyda yn erbyn gwlad Israel,

3. A dywed wrth wlad Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele fi i'th erbyn, tynnaf hefyd fy nghleddyf o'i wain, a thorraf ohonot gyfiawn ac anghyfiawn.

4. Oherwydd y torraf ohonot gyfiawn ac anghyfiawn, am hynny y daw fy nghleddyf allan o'i wain yn erbyn pob cnawd, o'r deau hyd y gogledd;

Eseciel 21