Eseciel 20:18-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Ond mi a ddywedais wrth eu meibion hwynt yn yr anialwch, Na rodiwch yn neddfau eich tadau, ac na chedwch eu barnedigaethau hwynt, nac ymhalogwch chwaith â'u heilunod hwynt.

19. Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi: rhodiwch yn fy neddfau, a chedwch fy marnedigaethau, a gwnewch hwynt:

20. Sancteiddiwch hefyd fy Sabothau; fel y byddont yn arwydd rhyngof fi a chwithau, i wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

21. Y meibion hwythau a wrthryfelasant i'm herbyn; yn fy neddfau ni rodiasant, a'm barnedigaethau ni chadwasant trwy eu gwneuthur hwynt, y rhai y bydd byw ynddynt y dyn a'u gwnelo hwynt: halogasant fy Sabothau: yna y dywedais y tywalltwn fy llid arnynt, i gyflawni fy nig wrthynt yn yr anialwch.

22. Eto troais heibio fy llaw, a gwneuthum er mwyn fy enw, fel na halogid ef yng ngolwg y cenhedloedd y rhai y dygaswn hwynt allan yn eu gŵydd.

23. Hefyd mi a dyngaswn wrthynt yn yr anialwch, ar eu gwasgaru hwynt ymysg y cenhedloedd, a'u taenu hwynt ar hyd y gwledydd;

24. Oherwydd fy marnedigaethau ni wnaethent, ond fy neddfau a ddiystyrasent, fy Sabothau hefyd a halogasent, a'u llygaid oedd ar ôl eilunod eu tadau.

25. Minnau hefyd a roddais iddynt ddeddfau nid oeddynt dda, a barnedigaethau ni byddent fyw ynddynt:

26. Ac a'u halogais hwynt yn eu hoffrymau, wrth dynnu trwy dân bob peth a agoro y groth, fel y dinistriwn hwynt; fel y gwybyddent mai myfi yw yr Arglwydd.

27. Am hynny, fab dyn, llefara wrth dŷ Israel, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Eto yn hyn y'm cablodd eich tadau, gan wneuthur ohonynt gamwedd i'm herbyn.

28. Canys dygais hwynt i'r tir a dyngaswn ar ei roddi iddynt, a gwelsant bob bryn uchel, a phob pren brigog; ac aberthasant yno eu hebyrth, ac yno y rhoddasant eu hoffrymau dicllonedd: yno hefyd y gosodasant eu harogl peraidd, ac yno y tywalltasant eu diod‐offrymau.

29. Yna y dywedais wrthynt, Beth yw yr uchelfa yr ydych chwi yn myned iddi? a Bama y galwyd ei henw hyd y dydd hwn.

30. Am hynny dywed wrth dŷ Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ai ar ffordd eich tadau yr ymhalogwch chwi? ac a buteiniwch chwi ar ôl eu ffieidd‐dra hwynt?

31. Canys pan offrymoch eich offrymau, gan dynnu eich meibion trwy y tân, yr ymhalogwch wrth eich holl eilunod hyd heddiw: a fynnaf fi gennych ymofyn â mi, tŷ Israel? Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, nid ymofynnir â mi gennych.

32. Eich bwriad hefyd ni bydd ddim, yr hyn a ddywedwch, Byddwn fel y cenhedloedd, fel teuluoedd y gwledydd, i wasanaethu pren a maen.

Eseciel 20