Eseciel 20:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yn y seithfed flwyddyn, o fewn y pumed mis, ar y degfed dydd o'r mis, y daeth gwŷr o henuriaid Israel i ymgynghori â'r Arglwydd, ac a eisteddasant ger fy mron i.

2. Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

3. Ha fab dyn, llefara wrth henuriaid Israel, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ai i ymofyn â mi yr ydych chwi yn dyfod? Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni fynnaf gennych ymofyn â mi.

4. A ferni di hwynt, mab dyn, a ferni di hwynt? gwna iddynt wybod ffieidd‐dra eu tadau:

Eseciel 20