Eseciel 2:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, saf ar dy draed, a mi a lefaraf wrthyt.

2. A'r ysbryd a aeth ynof, pan lefarodd efe wrthyf, ac a'm gosododd ar fy nhraed, fel y clywais yr hwn a lefarodd wrthyf.

3. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, yr ydwyf fi yn dy ddanfon di at feibion Israel, at genedl wrthryfelgar, y rhai a wrthryfelasant i'm herbyn; hwynt‐hwy a'u tadau a droseddasant i'm herbyn, hyd gorff y dydd hwn.

4. Meibion wyneb‐galed hefyd a chadarn galon yr wyf fi yn dy ddanfon atynt: dywed dithau wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw.

5. A pha un bynnag a wnelont ai gwrando, ai peidio, (canys tŷ gwrthryfelgar ydynt,) eto cânt wybod fod proffwyd yn eu mysg hwynt.

6. Tithau fab dyn, nac ofna rhagddynt, ac na arswyda er eu geiriau hwynt, er bod gwrthryfelwyr a drain gyda thi, a thithau yn trigo ymysg ysgorpionau: nac ofna rhag eu geiriau hwynt, ac na ddychryna gan eu hwynebau hwynt, er mai tŷ gwrthryfelgar ydynt.

Eseciel 2