Eseciel 18:13-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Ar usuriaeth y rhoddes, ac ychwaneg a gymerth; gan hynny a fydd efe byw? Ni bydd byw: gwnaeth yr holl ffieidd‐dra hyn; gan farw y bydd farw; ei waed a fydd arno ei hun.

14. Ac wele, os cenhedla fab a wêl holl bechodau ei dad y rhai a wnaeth efe, ac a ystyria, ac ni wna felly,

15. Ar y mynyddoedd ni fwyty, a'i lygaid ni chyfyd at eilunod tŷ Israel, ni haloga wraig ei gymydog,

16. Ni orthryma neb chwaith, ni atal wystl, ac ni threisia drais, ei fara a rydd i'r newynog, a'r noeth a ddillada,

17. Ni thry ei law oddi wrth yr anghenog, usuriaeth na llog ni chymer, fy marnau a wna, yn fy neddfau y rhodia: hwnnw ni bydd farw am anwiredd ei dad; gan fyw y bydd efe byw.

18. Ei dad, am orthrymu yn dost, a threisio ei frawd trwy orthrech, a gwneuthur yr hyn nid oedd dda ymysg ei bobl, wele, efe a fydd marw yn ei anwiredd.

19. Eto chwi a ddywedwch, Paham? oni ddwg y mab anwiredd y tad? Pan wnelo y mab farn a chyfiawnder, a chadw fy holl ddeddfau, a'u gwneuthur hwynt, gan fyw efe a fydd byw.

Eseciel 18