Eseciel 16:20-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Cymeraist hefyd dy feibion a'th ferched, y rhai a blantasit i mi; y rhai hyn a aberthaist iddynt i'w bwyta. Ai bychan hyn o'th buteindra di,

21. Ladd ohonot fy mhlant, a'u rhoddi hwynt i'w tynnu trwy y tân iddynt?

22. Ac yn dy holl ffieidd‐dra a'th buteindra ni chofiaist ddyddiau dy ieuenctid, pan oeddit lom a noeth, a'th fod yn ymdrybaeddu yn dy waed.

Eseciel 16