Eseciel 14:12-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd,

13. Ha fab dyn, pan becho gwlad i'm herbyn trwy wneuthur camwedd, yna yr estynnaf fy llaw arni, a thorraf ffon ei bara hi, ac anfonaf arni newyn, ac a dorraf ymaith ohoni ddyn ac anifail.

14. Pe byddai yn ei chanol y triwyr hyn, Noa, Daniel, a Job, hwynt‐hwy yn eu cyfiawnder a achubent eu henaid eu hun yn unig, medd yr Arglwydd Dduw.

15. Os bwystfil niweidiol a yrraf trwy y wlad, a'i difa o hwnnw, fel y byddo yn anghyfannedd, heb gyniweirydd rhag ofn y bwystfil:

16. Pe byddai y triwyr hyn yn ei chanol, fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni waredent na meibion na merched; hwynt‐hwy yn unig a waredid, a'r tir a fyddai yn anghyfannedd.

17. Neu os cleddyf a ddygaf ar y tir hwnnw, a dywedyd ohonof, Cyniwair, gleddyf, trwy y tir; fel y torrwyf ymaith ohono ddyn ac anifail:

18. A'r triwyr hyn yn ei ganol, fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni achubent na meibion na merched, ond hwynt‐hwy yn unig a achubid.

19. Neu os haint a anfonaf i'r wlad honno, a thywallt ohonof fy llid arni mewn gwaed, gan dorri ymaith ohoni ddyn ac anifail;

20. A Noa, Daniel, a Job, yn ei chanol hi; fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni waredent na mab na merch; hwynt‐hwy yn eu cyfiawnder a waredent eu heneidiau eu hun yn unig.

21. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Pa faint mwy, pan anfonwyf fy mhedair drygfarn, cleddyf, a newyn, a bwystfil niweidiol, a haint, ar Jerwsalem, i dorri ymaith ohoni ddyn ac anifail?

Eseciel 14