Eseciel 12:13-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. A mi a daenaf fy rhwyd arno ef, fel y dalier ef yn fy rhwyd: a dygaf ef i Babilon, tir y Caldeaid; ac ni wêl efe hi, eto yno y bydd efe farw.

14. A gwasgaraf yr holl rai sydd yn ei gylch ef i'w gynorthwyo, a'i holl fyddinoedd, tua phob gwynt; a thynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt.

15. A hwy a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, wedi gwasgaru ohonof hwynt ymysg y cenhedloedd, a'u taenu ar hyd y gwledydd.

Eseciel 12