Eseciel 11:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y'm cyfododd yr ysbryd, ac y'm dug hyd borth dwyrain tŷ yr Arglwydd, yr hwn sydd yn edrych tua'r dwyrain: ac wele bumwr ar hugain yn nrws y porth; ac yn eu mysg y gwelwn Jaasaneia mab Asur, a Phelatia mab Benaia, tywysogion y bobl.

2. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, dyma y gwŷr sydd yn dychmygu anwiredd, ac yn cynghori drwg gyngor yn y ddinas hon:

3. Y rhai a ddywedant, Nid yw yn agos; adeiladwn dai; hi yw y crochan, a ninnau y cig.

Eseciel 11