Eseciel 1:14-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Rhedai hefyd a dychwelai y pethau byw, fel gwelediad mellten.

15. Edrychais hefyd ar y pethau byw: ac wele ar lawr yn ymyl y pethau byw un olwyn, gyda'i bedwar wyneb.

16. Dull yr olwynion a'u gwaith oedd fel lliw beryl: a'r un dull oedd iddynt ill pedair; a'u gwedd hwynt a'u gwaith fel pe byddai olwyn yng nghanol olwyn.

Eseciel 1