Effesiaid 4:25-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. Oherwydd paham, gan fwrw ymaith gelwydd, dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog: oblegid aelodau ydym i'n gilydd.

26. Digiwch, ac na phechwch: na fachluded yr haul ar eich digofaint chwi:

27. Ac na roddwch le i ddiafol.

28. Yr hwn a ladrataodd, na ladrated mwyach: eithr yn hytrach cymered boen, gan weithio รข'i ddwylo yr hyn sydd dda; fel y byddo ganddo beth i'w gyfrannu i'r hwn y mae angen arno.

29. Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o'ch genau chwi, ond y cyfryw un ag a fyddo da i adeiladu yn fuddiol, fel y paro ras i'r gwrandawyr.

Effesiaid 4