Effesiaid 4:14-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Fel na byddom mwyach yn blantos, yn bwhwman, ac yn ein cylcharwain â phob awel dysgeidiaeth, trwy hoced dynion, trwy gyfrwystra i gynllwyn i dwyllo:

15. Eithr, gan fod yn gywir mewn cariad, cynyddu ohonom iddo ef ym mhob peth, yr hwn yw'r pen, sef Crist:

16. O'r hwn y mae'r holl gorff wedi ei gydymgynnull a'i gydgysylltu, trwy bob cymal cynhaliaeth, yn ôl y nerthol weithrediad ym mesur pob rhan, yn gwneuthur cynnydd y corff, i'w adeiladu ei hun mewn cariad.

Effesiaid 4