1. Deisyf gan hynny arnoch yr wyf fi, y carcharor yn yr Arglwydd, ar rodio ohonoch yn addas i'r alwedigaeth y'ch galwyd iddi,
2. Gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, ynghyd â hirymaros, gan oddef eich gilydd mewn cariad;
3. Gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Ysbryd yng nghwlwm tangnefedd.
4. Un corff sydd, ac un Ysbryd, megis ag y'ch galwyd yn un gobaith eich galwedigaeth;
5. Un Arglwydd, un ffydd, un bedydd,
6. Un Duw a Thad oll, yr hwn sydd goruwch oll, a thrwy oll, ac ynoch oll.
7. Eithr i bob un ohonom y rhoed gras, yn ôl mesur dawn Crist.
8. Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd, Pan ddyrchafodd i'r uchelder, efe a gaethiwodd gaethiwed, ac a roddes roddion i ddynion.