Diarhebion 7:11-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. (Siaradus ac anufudd yw hi; ei thraed nid arhoant yn ei thŷ:

12. Weithiau yn y drws, weithiau yn yr heolydd, ac yn cynllwyn ym mhob congl.)

13. Hi a ymafaelodd ynddo, ac a'i cusanodd, ac ag wyneb digywilydd hi a ddywedodd wrtho,

14. Yr oedd arnaf fi aberthau hedd; heddiw y cywirais fy adduned:

15. Ac am hynny y deuthum allan i gyfarfod â thi, i chwilio am dy wyneb; a chefais afael arnat.

16. Mi a drwsiais fy ngwely â llenni, ac â cherfiadau a llieiniau yr Aifft.

17. Mi a fwgderthais fy ngwely â myrr, aloes, a sinamon.

18. Tyred, moes i ni ymlenwi o garu hyd y bore; ymhyfrydwn â chariad.

19. Canys nid yw y gŵr gartref; efe a aeth i ffordd bell:

20. Efe a gymerth godaid o arian yn ei law; efe a ddaw adref ar y dydd amodol.

21. Hi a'i troes ef â'i haml eiriau teg, ac â gweniaith ei gwefusau hi a'i cymhellodd ef.

Diarhebion 7