Diarhebion 5:21-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Canys ffyrdd dyn sydd yng ngolwg yr Arglwydd, ac y mae efe yn dal ar ei holl lwybrau ef.

22. Ei anwiredd ei hun a ddeil yr annuwiol, ac efe a ddelir â rhaffau ei bechod ei hun.

23. Efe a fydd farw o eisiau addysg; a rhag maint ei ffolineb yr â ar gyfeiliorn.

Diarhebion 5