Diarhebion 4:9-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Hi a rydd ychwaneg o ras i'th ben di: ie, hi a rydd i ti goron gogoniant.

10. Gwrando, fy mab, a derbyn fy ngeiriau; a blynyddoedd dy fywyd a amlheir.

11. Yr ydwyf yn dy ddysgu yn ffordd doethineb; ac yn dy dywys yn llwybrau uniondeb.

12. Pan rodiech, dy gerddediad ni bydd gyfyng; a phan redech, ni thramgwyddi.

13. Ymafael mewn addysg, ac na ollwng hi: cadw hi; canys dy fywyd di yw hi.

14. Na ddos i lwybr yr annuwiolion, ac na rodia ar hyd ffordd y drygionus.

Diarhebion 4