Diarhebion 4:18-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Ond llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd.

19. Eithr ffordd y drygionus sydd fel y tywyllwch: ni wyddant wrth ba beth y tramgwyddant.

20. Fy mab, gwrando ar fy ngeiriau: gogwydda dy glust at fy ymadroddion.

Diarhebion 4