26. Canys yr Arglwydd a fydd dy hyder di, ac a geidw dy droed rhag ei ddal.
27. Na atal ddaioni oddi wrth y rhai y perthyn iddynt, pan fyddo ar dy law ei wneuthur.
28. Na ddywed wrth dy gymydog, Cerdda ymaith, a thyred amser arall, ac yfory mi a roddaf; a chennyt beth yn awr.
29. Na feddwl ddrwg yn erbyn dy gymydog, ac yntau yn trigo yn ddiofal yn dy ymyl.
30. Nac ymryson รข neb heb achos, os efe ni wnaeth ddrwg i ti.