Diarhebion 3:12-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Canys y neb a fyddo Duw yn ei garu, efe a'i cerydda, megis tad ei fab annwyl ganddo.

13. Gwyn ei fyd y dyn a gaffo ddoethineb, a'r dyn a ddygo ddeall allan.

14. Canys gwell yw ei marsiandïaeth hi na marsiandïaeth o arian, a'i chynnyrch hi sydd well nag aur coeth.

15. Gwerthfawrocach yw hi na gemau: a'r holl bethau dymunol nid ydynt gyffelyb iddi.

16. Hir hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi; ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant.

17. Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a'i holl lwybrau hi ydynt heddwch.

18. Pren bywyd yw hi i'r neb a ymaflo ynddi: a gwyn ei fyd a ddalio ei afael ynddi hi.

19. Yr Arglwydd trwy ddoethineb a seiliodd y ddaear; trwy ddeall y sicrhaodd efe y nefoedd.

20. Trwy ei wybodaeth ef yr holltodd y dyfnderau, ac y defnynna yr wybrennau wlith.

21. Fy mab, na ollwng hwynt allan o'th olwg: cadw ddoethineb a phwyll.

22. Yna y byddant yn fywyd i'th enaid, ac yn ras i'th wddf.

23. Yna y cei rodio dy ffordd yn ddiofal, a'th droed ni thramgwydda.

24. Pan orweddych, nid ofni; ti a orweddi, a'th gwsg fydd felys.

25. Nac ofna rhag braw disymwth, na rhag dinistr yr annuwiol pan ddelo.

26. Canys yr Arglwydd a fydd dy hyder di, ac a geidw dy droed rhag ei ddal.

27. Na atal ddaioni oddi wrth y rhai y perthyn iddynt, pan fyddo ar dy law ei wneuthur.

28. Na ddywed wrth dy gymydog, Cerdda ymaith, a thyred amser arall, ac yfory mi a roddaf; a chennyt beth yn awr.

29. Na feddwl ddrwg yn erbyn dy gymydog, ac yntau yn trigo yn ddiofal yn dy ymyl.

30. Nac ymryson â neb heb achos, os efe ni wnaeth ddrwg i ti.

Diarhebion 3