Diarhebion 29:25-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. Ofn dyn sydd yn dwyn magl: ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd a ddyrchefir.

26. Llawer a ymgeisiant ag wyneb y llywydd: ond oddi wrth yr Arglwydd y mae barn pob dyn.

27. Ffiaidd gan y cyfiawn ŵr anghyfiawn: a ffiaidd gan yr annuwiol ŵr uniawn ei ffordd.

Diarhebion 29