5. Dynion annuwiol ni ddeallant farn: ond y neb a geisiant yr Arglwydd, a ddeallant bob peth.
6. Gwell yw y tlawd a rodio yn ei uniondeb, na'r traws ei ffyrdd, er ei fod yn gyfoethog.
7. Y neb a gadwo y gyfraith, sydd fab deallus: ond y neb a fyddo gydymaith i loddestwyr, a gywilyddia ei dad.
8. Y neb a chwanego ei gyfoeth trwy usuriaeth ac ocraeth, sydd yn casglu i'r neb a fydd trugarog wrth y tlawd.
9. Y neb a dry ei glust ymaith rhag gwrando'r gyfraith, fydd ffiaidd ei weddi hefyd.
10. Y neb a ddeno y cyfiawn i ffordd ddrwg, a syrth yn ei bydew ei hun: ond y cyfiawn a feddianna ddaioni.