16. Penadur heb ddeall sydd yn fawr ei drawsedd: ond y neb a gasao gybydd‐dra, a estyn ei ddyddiau.
17. Dyn a wnelo drawsedd i waed neb, a ffy i'r pwll; nac atalied neb ef.
18. Y neb a rodio yn uniawn, a waredir: ond y neb a fyddo traws ei ffyrdd, a syrth ar unwaith.
19. Y neb a lafurio ei dir, a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno oferwyr, a gaiff ddigon o dlodi.
20. Gŵr ffyddlon a fydd aml ei fendithion: ond y neb a brysuro i fod yn gyfoethog, ni bydd digerydd.
21. Nid da derbyn wyneb: canys y cyfryw ŵr am damaid o fara a wna gam.