Diarhebion 27:23-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Edrych yn ddyfal ar dy anifeiliaid, a gofala am dy braidd.

24. Canys cyfoeth ni phery byth: ac a bery y goron o genhedlaeth i genhedlaeth?

25. Y gwair a flaendardda, a'r glaswellt a ymddengys, a llysiau y mynyddoedd a gesglir.

26. Yr ŵyn a'th ddillada, ac o'r geifr y cei werth tir.

27. Hefyd ti a gei ddigon o laeth geifr yn fwyd i ti, yn fwyd i'th dylwyth, ac yn gynhaliaeth i'th lancesau.

Diarhebion 27