Diarhebion 27:10-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Nac ymado â'th gydymaith dy hun, a chydymaith dy dad; ac na ddos i dŷ dy frawd yn amser dy orthrymder: canys gwell yw cymydog yn agos na brawd ymhell.

11. Bydd ddoeth, fy mab, a llawenycha fy nghalon; fel y gallwyf ateb i'r neb a'm gwaradwyddo.

12. Y call a wêl y drwg yn dyfod, ac a ymgûdd: ond yr angall a ânt rhagddynt, ac a gosbir.

13. Cymer wisg yr hwn a fachnïo dros y dieithr; a chymer wystl ganddo dros y ddieithr.

14. Y neb a fendithio ei gydymaith â llef uchel y bore pan gyfodo, cyfrifir hyn yn felltith iddo.

15. Defni parhaus ar ddiwrnod glawog, a gwraig anynad, cyffelyb ydynt.

16. Y mae yr hwn a'i cuddio hi, megis yn cuddio y gwynt, ac olew ei ddeheulaw, yr hwn a ymddengys.

17. Haearn a hoga haearn: felly gŵr a hoga wyneb ei gyfaill.

18. Y neb a gadwo ei ffigysbren, a fwyty o'i ffrwyth ef: a'r neb a wasanaetho ei feistr, a ddaw i anrhydedd.

19. Megis mewn dwfr y mae wyneb yn ateb i wyneb: felly y mae calon dyn i ddyn.

20. Ni lenwir uffern na distryw: felly ni lenwir llygaid dyn.

21. Fel y tawddlestr i'r arian, a'r ffwrnais i'r aur: felly y mae gŵr i'w glod.

22. Er i ti bwyo ffôl mewn morter â phestl ymhlith gwenith, eto nid ymedy ei ffolineb ag ef.

23. Edrych yn ddyfal ar dy anifeiliaid, a gofala am dy braidd.

24. Canys cyfoeth ni phery byth: ac a bery y goron o genhedlaeth i genhedlaeth?

25. Y gwair a flaendardda, a'r glaswellt a ymddengys, a llysiau y mynyddoedd a gesglir.

Diarhebion 27