Diarhebion 26:3-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Ffrewyll i farch, ffrwyn i asyn, a gwialen i gefn yr ynfyd.

4. Na ateb ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd; rhag dy fod yn gyffelyb iddo.

5. Ateb yr ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd; rhag iddo fod yn ddoeth yn ei olwg ei hun.

6. Y neb a yrro negesau gydag un angall, a dyr ymaith y traed, ac a yf golled.

Diarhebion 26