Diarhebion 24:4-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. A thrwy wybodaeth y llenwir y celloedd o bob golud gwerthfawr a hyfryd.

5. Gŵr doeth sydd nerthol; a gŵr pwyllog a chwanega ei nerth.

6. Canys trwy gyngor doeth y gwnei dy ryfel: a thrwy lawer o gynghorwyr y bydd diogelwch.

7. Rhy uchel yw doethineb i ffôl; ni egyr efe ei enau yn y porth.

8. Y neb a fwriada ddrygau, a elwir yn ysgeler.

9. Bwriad y ffôl sydd bechod; a ffiaidd gan ddynion y gwatwarus.

Diarhebion 24